Ar y Traeth

Sioned Fflur a Ffion Mai Davies

1. AR LAN Y MÔR

Ar lan y môr mae rhosys cochion,
Ar lan y môr mae lilis gwynion,
Ar lan y môr mae ’nghariad inne,
Yn cysgu’r nos a chodi’r bore.

Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bûm yn siarad gair â’m cariad.
Oddeutu hon fe dyf y lili
Ac ambell sbrigyn o rosmari.

Ar lan y môr mae cerrig gleision,
Ar lan y môr mae blodau’r meibion,
Ar lan y môr mae pob rhinwedde,
Ar lan y môr mae ’nghariad inne.

(100 o Ganeuon Gwerin, Gol. Meinir Wyn Edwards, Y Lolfa Cyf.)

2. FUOCH CHI ’RIOED YN MORIO?

“Fuoch chi ’rioed yn morio?”
“Wel do, mewn padell ffrio.
Chwythodd y gwynt fi i’r Eil o Man,
A dyna lle bûm i’n crio.”

Bachgen da ’di Dafydd
Yn gwisgo’i sgidie newydd.
Cadw’r hen rai tan yr ha’,
Bachgen da ’di Dafydd.

“Fuoch chi ’rioed yn morio?”
“Wel do, mewn padell ffrio.
Chwythodd y gwynt fi i’r Eil o Man,
A dyna lle bûm i’n crio.”