Y Tywydd

Sioned Fflur a Ffion Mai Davies

1. BWRW GLAW

Bwrw glaw yn sobor iawn,
Wel, dyma bnawn anghynnes,
Mochel dan yr ambarél
A cherdded fel brenhines.

Eisiau ambarél yn siŵr
I gadw dŵr o'n clustiau.
Clustiau'n gwrando ar y wlad
Yn siarad am y siwrnai.

Holi hwn a holi llall
A holi John Dwy Geiniog,
Pwy yw hon â'r ambarél
Wel, mae hi'n ddel gynddeiriog!

2. Y TYWYDD

Braf, braf, braf, braf,
O, mae'n dywydd braf.
Braf, braf, braf, braf,
O, mae'n dywydd braf.

Oer, oer, oer, oer,
O, mae'n dywydd oer.
Oer, oer, oer, oer,
O, mae'n dywydd oer.

Gwlyb, gwlyb, gwlyb, gwlyb,
O, mae'n dywydd gwlyb.
Gwlyb, gwlyb, gwlyb, gwlyb,
O, mae'n dywydd gwlyb.

(Codi bawd a dweud helô, Falyri Jenkins, Y Lolfa Cyf.)