Adnoddau i gyd-fynd â'r ail set o bedwar llyfr ffeithiol yn rhan o’r gyfres ‘Am Dro’ gan Angharad Tomos. Yn y pedwar llyfr, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa gyda chefnogaeth Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC, rhoddir sylw i'r traeth, dydd a nos, y tywydd a ddoe a heddiw.
Mae pob uned yn cynnwys gweithgaredd yn sail i drafodaeth dan arweiniad athro/athrawes, ynghyd â gweithgareddau i’w defnyddio’n annibynnol gan ddisgyblion, a chaneuon pwnc benodol.