Dydd a Nos

Sioned Fflur a Ffion Mai Davies

1. CÂN Y GOFOD

O, mi garwn fynd am dro i’r gofod,
O, mi garwn fynd am dro i’r gofod,
O, mi garwn fynd am dro i’r gofod,
I weld y bobol fach mewn dillad aur.

O, mi garwn fynd am drip i’r lleuad,
O, mi garwn fynd am drip i’r lleuad,
O, mi garwn fynd am drip i’r lleuad,
I neidio ugain llath i’r awyr fry.

O, mi garwn fynd am sgawt i Sadwrn,
O, mi garwn fynd am sgawt i Sadwrn,
O, mi garwn fynd am sgawt i Sadwrn,
A gweled rhyfeddodau hardd y sêr.

O, mi garwn fynd ar wib mewn llong ofod,
O, mi garwn fynd ar wib mewn llong ofod,
O, mi garwn fynd ar wib mewn llong ofod,
A throedio’r Llwybr Llaethog wrth fy modd.

O, mi garwn wisgo siwt gofodwr,
O, mi garwn wisgo siwt gofodwr,
O, mi garwn wisgo siwt gofodwr,
A mynd am wibdaith hir i blith y sêr.

O, mi garwn fynd am dro i’r gofod,
O, mi garwn fynd am dro i’r gofod,
O, mi garwn fynd am dro i’r gofod,
Dim ond os cawn i ddod,
Dim ond os cawn i ddod,
Dim ond os cawn i ddod i Gymru’n ôl.

(Cwm-Rhyd-y-Rhosyn, Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones, Cyhoeddiadau Sain)

2. NOS A BORE

Haul yn machludo,
Awyr yn duo,
Adar bach yn clwydo,
Nos da, bawb!

Bore yn gwawrio,
Awyr yn goleuo,
Adar bach yn canu,
Bore da, bawb!

(Codi bawd a dweud helô, Falyri Jenkins, Y Lolfa Cyf.)